
(A first translation into Welsh of the poetry of Jewish poet Selma Merbaum) Cerddi 1939-1941 Selma Merbaum Ganed Selma Merbaum yn Czernowitz (heddiw Chernivtsi yn Wcráin) ym 1924. Gelwid Czernowitz yn "Klein Wien" (Fienna Fach) oherwydd yr amrywiaeth o ieithoedd a siaredid yno a chyfoeth bywyd diwylliannol y ddinas. Medrai Selma Almaeneg, Iddeweg a Rwmaneg, yr olaf oherwydd bod Bwcofina wedi'i roi i Rwmania ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf yn dilyn datgymalu'r ymerodraeth Awstro-Hwngaraidd. Bu farw yn 18 oed o deiffws ym 1942 yng ngwesyll llafur Mikhailowka dan reolaeth yr SS. Ar ôl darganfod ei cherddi a chyhoeddi'r Blütenlese ('CynhaeafBlodau') yn Israel ym 1975, dechreuwyd cymryd diddordeb ynddo yn yr Almaen, ac erbyn hyn mae wedi'i gyfieithu i Iddeweg, Hebraeg, Saesneg, Iseldireg, Sbaeneg ac Wcraineg, ac wedi dod yn rhan o lenyddiaeth y byd. Yn y llyfr hwn ceisiwyd trefnu'r cyfieithiadau yn gronolegol er mwyn dangos ei datblygiad fel bardd yn ystod cyfnod byr ei blodau. Fel y bardd enwog Paul Celan, a oedd yn perthyn iddi, ysgrifennai yn Almaeneg, iaith prif erlidwyr yr Iddewon pryd hynny.
- | Author: Selma Merbaum
- | Publisher: NA
- | Publication Date: Jun 30, 2024
- | Number of Pages: NA pages
- | Language: Welsh
- | Binding: Paperback
- | ISBN-10: 1917237197
- | ISBN-13: 9781917237192
- Author:
- Dr Khalid Sohail
- Publisher:
- Dr. Sohail MPC
- Publication Date:
- Aug 20, 2024
- Number of pages:
- NA pages
- Language:
- Urdu
- Binding:
- Paperback
- ISBN-10:
- 1927874661
- ISBN-13:
- 9781927874660